Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Swyddfa'r Llywydd, 4ydd Llawr, Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 14 Mai 2012 |
|
|||
Amser: |
14: - 16:30 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: AC(4)2012(4) |
|||||
|
|
|
|||
Yn bresennol: |
|
Rosemary Butler (Cadeirydd) Peter Black Angela Burns Sandy Mewies |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Claire Clancy, Y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad (Swyddog) Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad (Swyddog) Dianne Bevan, Prif Swyddog Gweithredu (Swyddog) Keith Bush, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol (Swyddog) Dave Tosh (Swyddog) Craig Stephenson, Prif Ysgrifennydd Preifat y Llywydd (Swyddog) Carys Evans, Prif Ysgrifennydd y Comisiwn (Secretary)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
Mair Barnes, Cynghorwr Annibynnol
|
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad
Croesawyd Dave Tosh, y Cyfarwyddwr TGCh, i’w gyfarfod Comisiwn cyntaf.
1(i) Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ymddiheuriadau gan Rhodri Glyn Thomas AC.
1(ii) Datganiadau o fuddiant
Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.
1(iii) Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar y cofnodion yn ffurfiol.
Mae swyddogion yn gweithio ar bob un o’r camau.
2. Cyllideb 2013-14 - blaenoriaethau/goblygiadau strategol
Yn y cyfarfod ar 8 Mawrth, cytunodd y Comisiynwyr i barhau i weithio o fewn yr arian dangosol ar gyfer 2013-14 a nodwyd yn y ddogfen gyllideb, a thrafodwyd blaenoriaethau cyllideb 2013-14 yn y cyd-destun hwn.
Y gyllideb ddangosol yw £49.5 miliwn, y mae £34.1 miliwn ohoni ar gyfer talu costau gweithredol a £13.7 miliwn yn gysylltiedig ag Aelodau’r Cynulliad. Mae’r gweddill ar gael i’w fuddsoddi, yn unol â blaenoriaethau strategol y Comisiwn. Disgwylir y caiff adnoddau ychwanegol eu rhyddhau ar gyfer blaenoriaethau buddsoddi yn 2013-14, gyda chyfraniadau’n deillio o’r rhaglen gwerth am arian, y targedau effeithlonrwydd a chronfeydd wrth gefn.
Trafodwyd nifer o flaenoriaethau o ran buddsoddi. Er y cydnabuwyd mai TGCh a gâi’r brif flaenoriaeth, byddai’n rhaid parhau i drafod goblygiadau mabwysiadu’r dull blaenoriaethu hwn, ymhellach, mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.
Caiff cyllideb y Comisiwn ei gosod ym mis Medi. Mae’n debyg y bydd y dulliau ymgynghori ag Aelodau eleni, yn dilyn y fformat a fabwysiadwyd y llynedd, pan fu Angela Burns AC, y Comisiynydd sy’n gyfrifol am y portffolio perthnasol, yn mynd i gyfarfodydd y grwpiau ac yn cynnal sesiynau gwybodaeth gydag Aelodau
Cam i’w gymryd: Y swyddogion i ddatblygu’r ddogfen gyllideb yn unol â’r dull y cytunwyd arno.
3. Caffael yn y Cynulliad 2012-14
Cryfhawyd y tîm Caffael, ac mae bellach yn gweithredu’n fwy canolog wrth reoli’r broses o gaffael, yn arbennig gyda chytundebau gwerth dros £25,000.
Datblygir y gwaith hwn yn unol â nodau’r Comisiwn, yn benodol, yr angen i gaffael yn effeithlon pan fyddwn yn cefnogi datblygiad cadwyn gyflenwi amrywiol fydd yn cynorthwyo cyflenwyr bach i gystadlu; ac i ganolbwyntio ar werth am arian.
Croesawodd y Comisiynwyr y dull a ddatblygir, a fydd yn sicrhau bod modd mabwysiadu strategaethau priodol ar gyfer marchnadoedd gwahanol.
4. Adborth o gyfarfod diwethaf y Pwyllgor Archwilio (19 Ebrill 2012)
Er mwyn llywodraethu’n dda, bydd y Comisiwn yn cael adroddiad gan Bwyllgor Archwilio Comisiwn y Cynulliad, a bu’n trafod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor, a gynhaliwyd ym mis Ebrill.
Bu’r Comisiynwyr yn canolbwyntio ar ganfyddiadau’r Adroddiad Archwilio Mewnol ar Reoli Cyllidebau a phrosesau Rheolaeth Ariannol, a’r angen am ragor o ymwybyddiaeth ynghylch gwerth am arian, a gwelliannau o ran effeithlonrwydd, yn y sefydliad drwyddo draw.
5. Strategaeth wobrwyo Comisiwn y Cynulliad ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad
Daeth cytundeb cyflog presennol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer staff, i ben ar 31 Mawrth 2012. Mae’r trafodaethau'n parhau ar y trefniadau tâl yn y dyfodol.
6. Adroddiad y Bwrdd Rheoli i’r Comisiwn
Trafodwyd yr eitemau a ganlyn:
Y Bwrdd
Taliadau
• Mae’r Bwrdd yn cynnig gwneud newidiadau i’r trefniadau ar gyfer llety dros nos i Aelodau y mae eu prif gartref yn yr ardal fewnol, a bydd yn gwneud penderfyniad terfynol ar y mater yn ei gyfarfod ym mis Mehefin. Cafodd yr Aelodau wahoddiad i gyflwyno eu barn ar y mater;
• Bydd y Bwrdd Taliadau’n cynnal adolygiad o’r trefniadau staffio ar gyfer Aelodau’r Cynulliad a bydd yn cysylltu â staff cymorth ac Aelodau wrth gyflawni’r gwaith hwn.
TGCh
• Gwnaed gwelliannau i’r gwasanaethau TGCh dros y misoedd diwethaf, sy’n cynnwys gwelliannau gan Atos a staff y Cynulliad. Yn eu plith mae gwelliannau o ran mynediad i’r system gyfrifiadurol mewn swyddfeydd etholaethol, ac archwiliadau o offer a seilwaith TGCh;
• Mae staff yr adran TGCh wedi cyfarfod â’r rhan fwyaf o Aelodau’r Cynulliad i nodi problemau. Bydd y wybodaeth a geir yn llywio’r dasg o gynllunio gwaith ar gyfer y dyfodol, fel cysylltedd diwifr a rhagor o ddewis o ddyfeisiau i ddefnyddwyr.
• Dechreuwyd ar ddau faes gwaith pwysig: prosiect i arfarnu’r opsiynau ar gyfer darparu gwasanaeth TGCh yn y dyfodol, a datblygu strategaeth TGCh ar gyfer y Cynulliad a’r Comisiwn. Caiff Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y ddau faes gwaith yn rheolaidd.
7. Rhaglen dreigl Comisiwn y Cynulliad
Nodwyd y rhaglen dreigl.
8. Unrhyw fusnes arall
Nid oedd unrhyw fater arall i’w drafod.